Skip page header and navigation

Mae pedwar o fyfyrwyr sy’n graddio o’r Drindod Dewi Sant wedi’u cynnwys ar restr fer gan arbenigwyr y diwydiant am le ar y Sioe Ddylunio Graddedigion Fyd-eang, mewn cydweithrediad â’r brand ffasiwn, Gucci.

Poster: Pleidlais gyhoeddus nawr ar agor – #globaldesigngraduateshow – Arts Thread mewn cydweithrediad â Gucci.

Mae Dela Ball, Haiyun Yang, Molly Ashton a Seren Willicombe wedi diogelu eu lle ar y rhestr ar ôl cyflwyno eu gwaith gradd terfynol i banel o arbenigwyr creadigol byd-eang.

Mae’r pleidleisio wedi dechrau, a gall y cyhoedd bleidleisio dros un person ym mhob categori. Daw’r pleidleisio i ben ar 11eg Hydref.

Archwiliwch waith bob un o artistiaid PCYDDS yn y dolenni isod:

Molly Ashton, BA Crefftau Dylunio – Icarus

Seren Willicombe, BA Ffotograffiaeth – Valley of the Willows

Dela Ball, BA Patrwm Arwyneb a Thecstilau – The Sacred Talisman

Haiyun Yang, MA Ffotograffiaeth – Human Theatre

Gallwch bori’r cyrsiau creadigol sydd ar gael yng Ngholeg Celf Abertawe PCYDDS yn pcydds.ac.uk  

Rhagor o wybodaeth:

Sioe Raddedigion Dylunio Fyd-eang 2023 mewn cydweithrediad â Gucci yw pedwerydd cyhoeddiad y fenter hon ac roedd hi ar agor i bob myfyriwr celf a dylunio a raddiodd yn y flwyddyn 2022-23 (israddedig, graddedig ac ôl-raddedig) mewn unrhyw ddisgyblaeth greadigol, unrhyw le yn y byd.

Eleni lanlwythodd dros 5000 o fyfyrwyr eu prosiectau diwedd blwyddyn, sy’n gwneud hon yr arddangosfa ar-lein fwyaf o bobl greadigol sy’n graddio yn y byd.

Eleni, bydd y panel o feirniaid uchel eu parch yn dewis eu hoff artistiaid a dylunwyr, a chyhoeddir canlyniadau pleidlais y beirniaid a’r bleidlais gyhoeddus ar ddydd Llun, 16eg Hydref 2023.


Gwybodaeth Bellach

Ella Staden

Swyddog y Wasg a’r Cyfryngau    
Cyfathrebu Corfforaethol a Chysylltiadau Cyhoeddus    
E-bost:  ella.staden@pcydds.ac.uk    
Ffôn: 07384467078

Rhannwch yr eitem newyddion hon

Tagiau