Skip page header and navigation

James Morgan, un o raddedigion Astudiaethau Addysg Prifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant yn rhannu mewnwelediadau am ei brofiad fel myfyriwr aeddfed yn ymgymryd ag addysg uwch ac yn darganfod hunan-gred.

Dyn yn gwynebu grŵp o blant
Cyn-fyfyriwr, James Morgan yn gweithio gyda grŵp o blant ysgol

Daeth James, sydd o Abertawe, i’r Drindod Dewi Sant fel myfyriwr hŷn yn ei 30au cynnar. Wrth dyfu i fyny â bywyd cartref anodd, a arweiniodd iddo fod yn ddigartref ar un cyfnod o’i arddegau, nid oedd ei addysg yn flaenllaw yn ei feddwl, a gadawodd yr ysgol gyda 5 TGAU.

Yn 29 oed, gyda digon o brofiad gwaith ond dim unman i symud ymlaen yn ei yrfa, penderfynodd James ar ôl 14 mlynedd allan o addysg, mai dyma’i amser i ddychwelyd; er mwyn ennill gradd a fyddai’n caniatáu iddo archwilio gyrfa newydd a chynnal ac ysbrydoli ei deulu ifanc a oedd yn tyfu.

Enillodd ei radd Baglor mewn Astudiaethau Addysg o gampws Caerfyrddin y Drindod Dewi Sant yn 2016.

Dyn yn chwarae gitâr ar lwyfan yn wynebu criw o blant

Dywedodd James:

“Roeddwn i’n camymddwyn tipyn yn yr ysgol. Wrth edrych yn ôl, roedd hynny mae’n siŵr yn ymgais i gael sylw er mwyn gwneud iawn am y diffyg sylw roeddwn i’n ei gael yn fy mywyd cartref, a oedd yn anffodus yn cynnwys dibyniaeth ar gyffuriau ac alcohol, trais a chael fy ngadael.  

“Cefais fy ysbrydoli i fynd i fyd addysg oherwydd roeddwn i eisiau bod mewn rhyw fath o rôl yn darparu cefnogaeth i blant a allai fod wedi cael magwraeth debyg i fy un i.”

Ar ôl graddio, aeth James ymlaen i gael gyrfa a roddodd ymdeimlad o bwrpas a boddhad iddo yn gweithio i elusennau a choleg addysg bellach gan helpu pobl ifanc o ystod o gefndiroedd i ddatblygu eu potensial. 

Ac yntau bellach yn gweithio fel Cynhyrchydd Dysgu Creadigol i’r Ambassador Theatre Group yn Arena Abertawe, mae’n rhoi rhywbeth yn ôl i’r gymuned, gan annog plant a phobl ifanc i ymarfer eu creadigrwydd trwy gerddoriaeth a pherfformio, a chodi eu dyheadau.

Dyn yn wynebu cynulleidfa o bobl ifanc

Dywedodd James:

“Er na wnes i ddilyn llwybr addysgu, gwnaeth fy ngradd agor drysau i mi nad oeddwn i’n gwybod eu bod yn bodoli. Rwy’n gallu defnyddio cymaint o’r hyn a ddysgais ar fy ngradd yn fy rôl heddiw, gan gynnwys sgiliau trosglwyddadwy a rheoli dosbarth yr oeddwn yn eu hymarfer ar leoliadau ysgol, yn ogystal â dealltwriaeth o’r system addysg a damcaniaethau dysgu. Gallaf gymhwyso’r rhain wrth i mi gyflwyno prosiectau gydag ysgolion a grwpiau cymunedol.”

Yn fwy diweddar, bu James yn gweithio ar brosiect ar raddfa fawr o’r enw House Party yn Arena Abertawe mewn cydweithrediad â myfyrwyr blwyddyn gyntaf y cwrs Twristiaeth a Digwyddiadau yn y Drindod Dewi Sant, a alluogodd grŵp o fandiau o dan 26 oed i berfformio am y tro cyntaf mewn lleoliad mawr.

I James roedd hwn yn brofiad gwerth chweil arall yn helpu pobl ifanc i weld eu potensial a chodi eu hyder, tra hefyd yn rhoi rhywbeth yn ôl i’r profiad myfyrwyr y Brifysgol drwy ddarparu’r lleoliad hwn i’n myfyrwyr fel rhan o’u modylau.

Mae James yn credu bod ei brofiad yn y brifysgol wedi newid nid yn unig ei ragolygon gyrfa ond hefyd ei feddylfryd.

Pobl ar lwyfan yn chwarae gitâr

Dywedodd James:

“Newidiodd y cwrs y ffordd roeddwn i’n meddwl amdanaf fy hun. Treuliais i’r rhan fwyaf o’m 20au yn teimlo fel petawn i wedi methu ac wedi gwastraffu pob cyfle. Roeddwn wedi cael cymaint o ergydion ac o ganlyniad i hynny roeddwn i’n galed arnaf i fy hun.

“Erbyn hyn rwy’n credu mai’r unig gyfyngiadau sydd gennych yw’r rhai rydych chi’n eu rhoi arnoch chi’ch hun. Fe wnes i wthio fy hun allan o’m parth cysur a dod allan gyda gradd dda, hunan-gred a gwytnwch. Rydw i wedi sylweddoli yw nad llinell syth yw bywyd, ac nid oes rhaid i ni ddilyn llwybr rhagnodedig. Es i i’r brifysgol ar adeg oedd yn iawn i mi ac rydw i mor ddiolchgar fy mod wedi gwneud hynny, oherwydd yn sicr fyddwn i ddim lle’r ydw i heddiw pe na bawn i wedi mynd.”

Mae’r Drindod Dewi Sant yn 1af yng Nghymru ac yn 4ydd yn y DU am Addysg yn ôl Tabl Cynghrair Prifysgolion y Guardian 2024.

Dysgwch ragor am Addysgu a TAR neu Waith Ieuenctid ac Astudiaethau Blynyddoedd Cynnar.


Gwybodaeth Bellach

Mared Anthony

Swyddog Cyfathrebu a Chysylltiadau Cyhoeddus: Cysylltiadau Cyn-fyfyrwyr   
Cyfathrebu Corfforaethol a Chysylltiadau Cyhoeddus   
E-bost: mared.anthony@pcydds.ac.uk     
Ffôn: +447482256996

Rhannwch yr eitem newyddion hon