Skip page header and navigation

Mae Athrofa Ryngwladol ar gyfer Datblygiad Entrepreneuraidd Creadigol (ARDEC) Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant wedi derbyn gwobr Gweithdy Gorau yn y Grŵp yng Nghynhadledd Ryngwladol Addysgwyr Entrepreneuraidd EEUK eleni (#IEEC23).

Hazel Israel yn siarad o flaen bwrdd gwyn.

Mewn cynhadledd fyd-eang a oedd yn cynnwys sawl un o’r goreuon ym maes Addysg Entrepreneuraidd (EE), cafodd tri aelod o dîm ARDEC y Brifysgol eu dewis yn unigol i gyflwyno. Nid yn unig y gwnaethant sefyll allan mewn maes rhyngwladol hynod gystadleuol, ond fe wnaethant hefyd gipio’r wobr ‘Gweithdy Gorau yn y Grŵp’, gan brofi fod y Drindod Dewi Sant yn un o’r mawrion ym maes addysg entrepreneuraidd fyd-eang.

Mae aelodau tîm ARDEC, Hazel Israel, Paul Ranson, a Dr Felicity Healey-Benson, wedi arddangos cadernid a bywiogrwydd addysg entrepreneuraidd yng Nghymru mewn ffordd orfoleddus.

Bu cystadlu brwd yng nghynhadledd eleni, gyda cheisiadau gan rai o’r doethion mwyaf peniog yn y sector addysg entrepreneuraidd yn fyd-eang. Er gwaethaf lefel uchel y gystadleuaeth, cafodd pob aelod o’r tîm eu dewis ar wahân i gyflwyno; camp anhygoel sy’n arddangos cryfder ac amrywiaeth eu harbenigedd.

Roedd y Tîm hefyd yn cynnwys Prif Siaradwr, yr Athro David A. Kirby, unigolyn blaenllaw ym maes Addysg Entrepreneuriaeth, ac Athro Ymarfer er Anrhydedd yn y Drindod Dewi Sant. Cychwynnodd raglenni arloesol mewn addysg entrepreneuriaeth ar draws prifysgolion amrywiol yn y DU a thramor, gan gyd-sefydlu’r Harmonious Entrepreneurship Society gyda Dr Felicity Healey Benson, sy’n pwysleisio entrepreneuriaeth gynaliadwy, fel cwmni deillio menter gymdeithasol i’r Drindod Dewi Sant yn 2022.

Mae gwaith Dr Kirby gyda’r Drindod Dewi Sant yn dynodi partneriaeth strategol sy’n canolbwyntio ar greu dyfodol cynaliadwy trwy arloesi addysgol. Mae ei yrfa hefyd yn cynnwys mwy na 200 o gyhoeddiadau, gwobrau niferus, a Chadeiriau Athrawon er Anrhydedd mewn sawl sefydliad byd-eang. Mae ei gydweithrediad â’r Drindod Dewi Sant yn arddangos perthynas ffrwythlon sy’n canolbwyntio’n benodol ar fynd i’r afael â Her Cynaliadwyedd.

Mewn gwobr sy’n arddangos eu hymrwymiad i ragoriaeth, enillodd tîm ARDEC wobr y ‘Gweithdy Gorau yn eu Grŵp’. Mae’r gydnabyddiaeth hon yn tanlinellu nid yn unig cyfraniadau unigol Hazel, Paul, a Dr Healey-Benson, ond hefyd yr ysbryd cydweithredol a’r arloesi y mae’r tîm yn ei gyfrannu i addysg entrepreneuraidd.  

“Mae tîm ARDEC yn wastad wedi bod ar y blaen o ran arloesi addysgol entrepreneuraidd. Mae ennill y wobr ‘Gweithdy Gorau yn y Grŵp’ nid yn unig yn anrhydedd i’r tîm ond mae hefyd yn cydnabod ansawdd uchel yr addysg entrepreneuraidd yng Nghymru,” meddai Iestyn Davies, Pro Is-Ganghellor, Y Drindod Dewi Sant.

Roedd y gweithdai arobryn yn arddangos methodolegau ac arfer blaenllaw’r Drindod Dewi Sant ym maes Addysg Entrepreneuraidd, wedi’u gwreiddio mewn cymwysiadau ac astudiaethau achos yn y byd go iawn. Roeddent yn ymgorffori elfennau rhyngweithiol a oedd yn taro tant gydag ymchwilwyr ac ymarferwyr fel ei gilydd, gan ei wneud yn brofiad cyfoethog i bawb a oedd yn bresennol.

Nodyn i’r Golygydd

Athrofa Ryngwladol ar gyfer Datblygiad Entrepreneuraidd Creadigol (ARDEC) y Drindod Dewi Sant

Canolfan ragoriaeth ym maes Addysg Entrepreneuraidd yw ARDEC yn y Drindod Dewi Sant, sy’n meithrin creadigrwydd, arloesi, a Menter i bawb. Gyda’i hymchwil o safon fyd-eang, ymchwil sy’n canolbwyntio ar ymarferwyr a rhaglenni arloesol fel y Dystysgrif Ôl-radd mewn Menter, mae’n gosod safonau newydd yn y maes ac yn cyfrannu at dwf a datblygiad y tirlun entrepreneuraidd yng Nghymru a thu hwnt.

EEUK ac #IEEC23

Digwyddiad blynyddol a drefnir gan EEUK yw’r Gynhadledd Ryngwladol Addysgwyr Entrepreneuraidd (#IEEC23), sy’n dod ag addysgwyr, ymchwilwyr, a gwneuthurwyr polisi o bob rhan o’r byd at ei gilydd i drafod, rhannu a hyrwyddo maes addysg entrepreneuraidd.  


Gwybodaeth Bellach

Rebecca Davies

Swyddog Gweithredol Cysylltiadau â’r Wasg a’r Cyfryngau     
Cyfathrebu Corfforaethol a Chysylltiadau Cyhoeddus     
E-bost: rebecca.davies@pcydds.ac.uk     
Ffôn: 07384 467071

Rhannwch yr eitem newyddion hon