Skip page header and navigation

Mae’r adran Arfer Proffesiynol ym Mhrifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant (PCYDDS) yn falch iawn o nodi a llongyfarch Sarah Bolton ar ei dyrchafiad i Uwch Dîm Rheoli Hywel Dda.

Sarah Bolton standing in her cap and gown in front of the University's sign  on graduation day

Cafodd Sarah daith ddysgu nodedig o adael yr ysgol gydag ychydig iawn o gymwysterau i ennill gradd meistr ac arwain adran erbyn hyn, ac mae’n brawf o’i gwaith caled, ei hymroddiad, a grym trawsnewidiol addysg yn PCYDDS.

Dechreuodd taith Sarah gyda swydd weinyddol mewn awdurdod lleol, a thrwy ymdrech barhaus ac ymrwymiad i ddysgu, gwnaeth gynnydd drwy rolau amrywiol, gan gasglu cymwysterau achrededig i wella ei gwybodaeth academaidd. Gan wynebu’r rhwystr o beidio â chael gradd na chymhwyster meistr i wneud datblygiad pellach yn ei gyrfa, cychwynnodd Sarah ar y rhaglen MA Arfer Proffesiynol yn PCYDDS.

Nid yn unig y gwnaeth ei phrosiect dysgu seiliedig ar waith, o’r enw ‘Gwerthusiad o Ddull Bwrdd Partneriaeth Rhanbarthol o ymdrin ag Ymgysylltiad Parhaus yng Ngorllewin Cymru,’ arddangos ei harbenigedd academaidd, ond fe wnaeth hefyd greu effaith sylweddol ar draws y wlad. Mae canfyddiadau’r prosiect wedi cyfrannu mewnwelediadau gwerthfawr i strategaethau partneriaeth rhanbarthol ac wedi cael eu cydnabod am eu harwyddocâd o ran gwella arferion ymgysylltiad parhaus.

Dywedodd Sarah:

“Roeddwn i wrth fy modd i raddio ym mis Gorffennaf 2023, ac mae’r cymhwyster hwn wedi talu ffordd yn barod oherwydd rydw i bellach wedi ennill swydd newydd, sy’n gofyn am gymhwyster meistr, yn Uwch Reolwr yn canolbwyntio ar Drawsnewid yn Hywel Dda. Heb os, ni fyddwn wedi gallu llwyddo heb y cymhwyster hwn.”

Er gwaethaf wynebu heriau megis pandemig COVID-19, dyfalbarhaodd Sarah gyda chymorth y Brifysgol, ei rheolwr llinell, a’i chyd-fyfyrwyr. Fe wnaeth dull hyblyg PCYDDS ei galluogi i gael pen ffordd drwy’r heriau hyn, cyflwyno’n amserol, a chadw mewn cysylltiad trwy adnoddau a rhwydweithiau cymorth ar-lein.

Fe wnaeth Lowri Harris, Uwch Ddarlithydd yn yr Adran Arfer Proffesiynol yn PCYDDS, fynegi balchder yng nghyrhaeddiad Sarah. Meddai: 

“Mae taith Sarah yn wirioneddol ysbrydoledig ac yn adlewyrchu ymrwymiad y Brifysgol i ddarparu addysg hygyrch ac effeithiol. Rydym yn ei llongyfarch ar y dyrchafiad haeddiannol hwn a’r effaith gadarnhaol y mae’n parhau ei chael yn ei maes.”

Mae Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant yn llongyfarch Sarah Bolton ac yn edrych ymlaen at weld llwyddiant parhaus ei graddedigion wrth iddynt wneud gwahaniaeth ystyrlon yn eu galwedigaethau perthnasol.

Mae’r tîm yn cynnal gweminar ym mis Mawrth, felly os hoffech ddysgu mwy am y posibiliadau o fewn y Fframwaith Arfer Proffesiynol, anfonwch e-bost at ppf@uwtsd.ac.uk, neu ffoniwch 01267676882. 


Gwybodaeth Bellach

Lowri Thomas

Prif Swyddog Cyfathrebu a Chysylltiadau Cyhoeddus      
Cyfathrebu Corfforaethol a Chysylltiadau Cyhoeddus      
E-bost: lowri.thomas@pcydds.ac.uk      
Ffôn: 07449 998476

Rhannwch yr eitem newyddion hon