Skip page header and navigation

Ydych chi’n ystyried gyrfa ym maes cyllid, bancio neu gyfrifeg? Rydym yn cynnig rhaglenni israddedig mewn Cyfrifeg a Chyllid Rhyngwladol sydd wedi’u cynllunio i ddiwallu’ch anghenion a rhoi dewisiadau i chi.

Dewiswch PCYDDS i feithrin y wybodaeth, y sgiliau, a’r profiad ymarferol sydd eu hangen i ragori ym meysydd deinamig cyfrifeg, cyllid, bancio a busnes rhyngwladol.

Mae ein rhaglen gradd Cyfrifeg wedi’i strwythuro’n ofalus i ddarparu dealltwriaeth eang o sefydliadau busnes wrth fodloni gofynion trwyadl y ddisgyblaeth a chyrff proffesiynol yn y sector.

Gyda phwyslais cryf ar gyflogadwyedd, mae ein dull gweithredu yn cynnwys prosiectau byw ac ymgyngoriaethau er mwyn rhoi profiad ymarferol i chi. Gallwch hyd yn oed gael eich eithrio o wyth papur Cymdeithas y Cyfrifwyr Ardystiedig Siartredig, gan fod y rhaglen yn cyd-fynd â safonau cyfrifeg proffesiynol.

Os oes gennych ddiddordeb mewn astudio cyllid mewn cyd-destun byd-eang, mae ein rhaglen Cyllid Rhyngwladol yn berffaith i chi. Drwy gydol y rhaglen, rydym yn integreiddio sgiliau rheoli prosiectau, entrepreneuriaeth, creadigrwydd, hyfforddi, mentora, meddwl beirniadol a chyfathrebu i’ch paratoi ar gyfer y dirwedd fusnes fyd-eang. Ar Lefel 6, byddwch yn canolbwyntio ar y cyd-destun byd-eang, gan arwain at brosiect annibynnol sy’n ymwneud â mater byd-eang neu sefydliad rhyngwladol.

Pam astudio Cyfrifeg a Chyllid yn PCYDDS?

01
Agwedd bersonol: Byddwch yn elwa ar gefnogaeth unigol yn y dosbarth a thu hwnt i’r dosbarth.
02
Ffocws proffesiynol: Cewch eich eithrio o wyth bapur Cymdeithas y Cyfrifwyr Ardystiedig Siartredig
03
Datblygu sgiliau: Potensial ardderchog ar gyfer datblygu o’ch gwybodaeth ar ddechrau’r cwrs i’ch canlyniad adeg graddio.
04
Rhoi hwb i’ch incwm: Mae graddedigion yn y gorffennol wedi sicrhau swyddi anrhydeddus gyda chwmnïau cyfrifeg mawr ac mewn adrannau cyfrifeg corfforaethol.
05
Edrychwch ar yr opsiynau: Mae blwyddyn gyntaf gyffredinol yn rhoi’r cyfle i chi ystyried eich dewis gyrfa.
06
Barod am yrfa: Dewch yn berson graddedig cyflawn trwy ddysgu amlddisgyblaethol a meithrin y sgiliau perthnasol i fod yn barod i gychwyn ar eich gyrfa.

Spotlights

Aelod o staff yn rhoi cyflwyniad i ddosbarth

Cyfleusterau

Amgylcheddau dysgu newydd gydag offer uwchdechnoleg  mewn lleoliad ardderchog. Ystafell drochi, yn cynnig cyfleoedd i brofi amrywiaeth o sefyllfaoedd mewn amgylchedd diogel. 

Dau fyfyriwr yn eistedd o flaen y ffynnon ar gampws Llambed

Beth sy’n gwneud PCYDDS yn unigryw?

Dechreuwch eich antur gyda gradd israddedig yn PCYDDS. Cewch eich trochi mewn pwnc sy’n eich ysbrydoli – gan archwilio gwahanol lwybrau gyrfaol ac opsiynau ar gyfer eich dyfodol ar hyd y daith. Beth bynnag fo’ch uchelgeisiau, gwnawn ni eich helpu i fwrw ati’n syth, gyda’ch goliau mewn golwg yn gadarn.