Skip page header and navigation

A ydych chi wedi ystyried pam mae ein cymdeithas ni fel y mae hi? A ydych chi erioed wedi ystyried pam mae rhai pobl yn cael eu heithrio? Cymdeithaseg yw’r astudiaeth o ddatblygiad, strwythur a gweithrediad cymdeithas ddynol, ac mae ein rhaglen Cymdeithaseg yn ymchwilio i’r cwestiynau hyn ac yn eich helpu i ffurfio dealltwriaeth o’r amrywiaeth sy’n bodoli o fewn cymdeithasau dynol.

Mae ein rhaglen Cymdeithaseg wedi’i chynllunio i roi dealltwriaeth ddofn i chi o gymhlethdodau cymdeithas a’r grymoedd cymdeithasol sy’n siapio’r byd. Mae cymdeithasegwyr yn ceisio deall sut mae cymdeithas yn gweithio a’r rhesymau pam, o bryd i’w gilydd, nad yw’n gweithio. Gyda ni, byddwch yn dysgu am amrywiaeth o anghenion dynol ac anghenion cymdeithasol, yn ogystal â’r polisïau cymdeithasol a’r sefydliadau lles sy’n bodoli i’w diwallu.  

Trwy ein rhaglen Cymdeithaseg, byddwch yn datblygu sgiliau meddwl beirniadol ac yn meithrin dealltwriaeth o hawliau a chyfrifoldebau. Cewch ddatblygu dealltwriaeth eang o faterion a datrysiadau cymdeithasegol yn ogystal â datblygu eich sgiliau ymchwilio, a hynny er mwyn i chi gael ymuno â’r diwydiant yn barod ar gyfer y byd fel yr ydym ni’n ei adnabod. Byddwch yn ennill y sgiliau hyn ynghyd â gwybodaeth ddyfnach wrth i chi ymchwilio i’r modiwlau sy’n cael eu rhannu ar draws y ddisgyblaeth.  

Byddwch yn cael eich addysgu gan ddarlithwyr ymchwilgar a fydd yn rhoi profiad addysgol heriol a gwerth chweil i chi. Mae gan ein darlithwyr ddealltwriaeth ymarferol sy’n sicrhau eu bod yn cadw mewn cysylltiad â’r byd go iawn, a byddan nhw’n darparu astudiaethau o’r byd go iawn i chi.  

Rydyn ni’n caniatáu rhyddid i’n myfyrwyr ddysgu, a chewch gyfle i ymchwilio i’r maes Cymdeithaseg sydd o’r diddordeb mwyaf i chi. Dysgwch beth sy’n gweddu i chi gyda’n dewis o raglenni hyblyg a chyda dulliau dysgu y gellir eu haddasu i’ch siwtio chi.

Pam astudio Cymdeithaseg yn PCYDDS?

01
Roedd 100% o'n myfyrwyr Cymdeithaseg yn cytuno bod staff yn dda am egluro pethau – Arolwg Cenedlaethol o Fyfyrwyr 2022.
02
Cewch ddysgu gan dîm sydd â moeseg ymchwil gref ac sydd â chefndir ymarferol, gan sicrhau cwricwlwm sy'n cadw mewn cysylltiad â'r byd go iawn.
03
Cyfle i roi'r theori rydych chi'n ei dysgu yn yr ystafell ddosbarth ar waith gyda chyfleoedd lleoliad mewn sefyllfaoedd go iawn yn ystod eich rhaglen.

Spotlights

Myfyriwr yn eistedd dan goeden ac yn darllen llyfr

Cyfleusterau

ewch eich addysgu mewn dosbarthiadau grwpiau bach lle caiff eich llais a’ch barn eu clywed. Gallwch ymgysylltu ar y campws lle anogir trafodaethau pellach. Bydd gennych fynediad i ystod helaeth o ddeunyddiau llenyddiaeth o’r llyfrgell i ddatblygu eich gwybodaeth ymhellach. Yn ogystal â’n llyfrgelloedd ar y campws, bydd gennych fynediad i storfa o lenyddiaeth, ymchwil a chyfnodolion trwy glicio ar fotwm ar-lein.

Dau fyfyriwr yn eistedd o flaen y ffynnon ar gampws Llambed

Beth sy’n gwneud PCYDDS yn unigryw?

Dechreuwch eich antur gyda gradd israddedig yn PCYDDS. Cewch eich trochi mewn pwnc sy’n eich ysbrydoli – gan archwilio gwahanol lwybrau gyrfaol ac opsiynau ar gyfer eich dyfodol ar hyd y daith. Beth bynnag fo’ch uchelgeisiau, gwnawn ni eich helpu i fwrw ati’n syth, gyda’ch goliau mewn golwg yn gadarn.